Neidio i'r cynnwys

Jan Kochanowski

Oddi ar Wicipedia
Jan Kochanowski
Ganwyd1530 Edit this on Wikidata
Bu farw22 Awst 1584 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Lublin Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata
llofnod

Bardd a dyneiddiwr Pwylaidd yn yr ieithoedd Pwyleg a Lladin oedd Jan Kochanowski (153022 Awst 1584) a flodeuai yn ystod cyfnod y Dadeni yng Ngwlad Pwyl.

Ganed ef yn Sycyna, Teyrnas Pwyl, i deulu o'r bonedd gwledig. Aeth i Academi Kraków cyn teithio i'r Eidal i astudio ym Mhrifysgol Padova o 1552 i 1559. Wedi iddo ddychwelyd i'w famwlad, gwasanaethodd yn ysgrifennydd i'r llys brenhinol yn Kraków.[1]

Cyfansoddai Kochanowski ei gerddi cynnar yn Lladin, y rhan fwyaf ohonynt yn alargerddi. Trodd yn fuan at iaith y werin, a chan nad oedd y Bwyleg eto wedi aeddfedu'n iaith ysgrifenedig, Kochanowski oedd prif arloeswr y safon lenyddol newydd. Dyfeisiodd gystrawen farddonol a phatrymau mydryddol ei hunan, gan greu model a efelychir gan lenorion Pwyleg am gannoedd o flynyddoedd. Ysgrifennodd mewn sawl ffurf, gan gynnwys emynau, telynegion, epigramau, dychangerddi, a throsiadau Beiblaidd. Ei gampwaith ydy Treny (1580), cylch o 19 o alarnadau a ysbrydolwyd gan farwolaeth ei ferch, Urszula.

Kochanowski hefyd oedd awdur Odprawa posłów greckich (1578), y drasiedi Bwyleg gyntaf yn oes y Dadeni, a ysgrifennwyd ar fesur diodl ac ar sail stori'r Iliad. Perfformiwyd y ddrama yn y llys brenhinol yn Ujazdów, ger Warsaw, ym 1578, a chafodd ei hystyried yn alegori wleidyddol o'r sefyllfa gyfoes rhwng Gwlad Pwyl a Rwsia.

Priododd oddeutu 1575, a threuliodd diwedd ei oes ar ystad ei deulu yn Czarnolas, yng nghanolbarth Gwlad Pwyl. Bu farw yn Lublin, oddeutu 54 oed.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Jan Kochanowski. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Hydref 2023.